Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir

31 Hydref 2016

SL(5)019 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu wedi hynny. Caiff y rheoliadau eu diwygio er mwyn sicrhau bod premiymau'r dreth gyngor yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfrifiad o'r sylfaen treth gyngor. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 drwy fewnosod adran newydd 139 sy'n galluogi awdurdod bilio yng Nghymru i gymhwyso premiwm treth gyngor mewn perthynas â chartrefi sy'n wag dros y tymor hir ac ail gartrefi. Caiff y diwygiadau i'r rheoliadau hyn eu gwneud o ganlyniad i'r diwygiadau uchod i'r Ddeddf.

Deddf Wreiddiol: Deddf Tai (Cymru) 2014; Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Fe’u gwnaed ar: 5 Hydref 2016

Fe’u gosodwyd ar: 7 Hydref 2016

Yn dod i rym ar: 28 Hydref 2016